Rhif y ddeiseb:P-05-960

 

Teitl y ddeiseb: Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy'n marw o Covid-19 neu gyda'r feirws

 

Geiriad y ddeiseb:Rhoesant eu bywydau i achub ein bywydau ni. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau angladdau holl staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws.  Mae angladd syml yn costio £4,000 ar gyfartaledd. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn cael mynediad at arian ar unwaith i dalu costau angladdau.

 

 


1.  Y cyd-destun

Ledled y Deyrnas Unedig, mae o leiaf 100 o staff GIG a gweithwyr gofal rheng flaen wedi colli eu bywydau i’r coronafeirws. Mae’r bobl sydd wedi marw yn cynnwys llawfeddygon, nyrsys, porthorion, parafeddygon a gwirfoddolwyr. Roedd o leiaf naw o’r staff rheng flaen a fu farw yn gweithio mewn ysbytai, cartrefi gofal a’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.

Ddydd Mawrth 28 Ebrill, cafwyd munud o ddistawrwydd ar gyfer y bobl a fu farw yn rheng flaen y gwaith yn erbyn y clefyd hwn.  

2.  Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 27 Ebrill 2020, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, COVID-19: Cynllun marwolaeth mewn gwasanaeth i weithwyr rheng flaen y GIG a Gofal Cymdeithasol.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn nodi bod y cynllun yn rhoi:

cymorth ariannol o £60,000 i’r rhai sy’n gymwys i fod yn fuddiolwyr i staff rheng flaen, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn y GIG a’r maes gofal cymdeithasol, petaent yn marw o ganlyniad i effaith COVID-19.

Mae'r cynllun yn un 'anghyfrannol', sy’n golygu nad oes costau ychwanegol i gyflogwyr. Mae'r Cynllun yn darparu 'swm untro' o £60,000 i fuddiolwr cymwys. Bydd yn daladwy, ni waeth beth yw cyflog yr unigolyn ac ni waeth a yw unigolyn yn aelod o Gynllun Pensiwn.

Bydd y Cynllun ar waith am gyfnod penodol, sef yn ystod cyfnod y pandemig, a bydd yn ôl-weithredol o 25 Mawrth 2020.

Nid yw'r cyhoeddiad yn dweud yn benodol bod y cymorth ariannol i helpu teuluoedd i dalu costau angladd gweithwyr gofal iechyd a fu farw o ganlyniad i COVID-19, ond dyna’r hyn sy’n cael ei led-awgrymu. Nododd cyhoeddiad y Gweinidog y canlynol:

Gofynnir i’n gweithwyr rheng flaen fynd y tu hwnt i ofynion eu dyletswyddau arferol wrth ddarparu gofal a gwasanaethau i gleifion ac unigolion, ac mae’r cynllun hwn yn mynd ran o’r ffordd tuag at gynnig mwy o dawelwch meddwl a sicrwydd ariannol i’w hanwyliaid.

Mae cynllun sydd bron yn union yr un fath hefyd wedi cael ei gyflwyno yn Lloegr ar gyfer gweithwyr rheng flaen y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n marw, gyda Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd, dweud ar wefan Llywodraeth y DU:

Financial worries should be the last thing on the minds of their families so in recognition of these unprecedented circumstances we are expanding financial protection to NHS and social care workers delivering publicly funded care on the frontline.

Mae cynlluniau tebyg hefyd yn cael eu cyflwyno gan weithrediaeth yr Alban a gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

3.  Costau angladd

Yn ôl Mynegai Costau Angladd Cenedlaethol 2019 Royal London (PDF 4.6MB), ar gyfartaledd yn 2019, cost angladd yn y DU oedd £3,785.

Mae costau angladd ar gyfartaledd yn seiliedig ar angladd syml a drefnwyd trwy drefnydd angladdau. Yn nodweddiadol, mae’r costau angladd cyfartalog yn cynnwys ffioedd am y bedd a’r gladdedigaeth, neu ffioedd amlosgi a danfon y lludw, casglu/gofalu am yr ymadawedig, arch sylfaenol, hers a gwasanaeth syml mewn amlosgfa.

O ran y costau cyfartalog hyn, nid ydynt yn cynnwys ffioedd trydydd parti sydd y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol trefnwyr angladdau, megis ffioedd gweinidog. Mae’r mynegai costau’n nodi bod y swm cyfartalog a wariwyd ar angladd ar gyfartaledd yn fwy, sef £3,989.

Hefyd, mae cost angladd ar gyfartaledd yn ffigur ar gyfer y DU gyfan. Bydd y costau yn amrywio’n sylweddol mewn gwahanol rannau o'r DU ac yng Nghymru (gweler adran 2.3).

3.1.Costau claddu a chostau amlosgi yn y DU

Mae'r costau cyfartalog uchod yn cyfuno claddedigaeth syml ag angladdau amlosgi. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae claddu yn ddrytach nag amlosgi. Ar gyfartaledd, mae claddedigaeth yn costio £1,000 yn fwy. 

Costau claddedigaeth ar gyfartaledd yn erbyn costau angladd amlosgi yn y DU:

-   Cost gyfartalog claddedigaeth: £4,321

-   Cost gyfartalog angladd amlosgi: £3,250

3.2.Amlosgi uniongyrchol

Mae trydydd math o angladd yn opsiwn yn y DU, sef 'amlosgi uniongyrchol'. Mae rhai cwmnïau’n cynnig amlosgi uniongyrchol fel opsiwn costeffeithlon i deuluoedd. Mae’r ymadawedig yn cael ei gasglu o’r corffdy yn ystod oriau gwaith arferol a'i amlosgi ar amser cyfleus. Nid oes seremoni na chyfle i weld y corff ymlaen llaw, ac ni threfnir limwsinau ar gyfer y teulu a’r galarwyr. Hefyd, rhaid gofyn am y llwch a’i gasglu.

Cost gyfartalog amlosgi uniongyrchol yn y DU:

-   Amlosgi uniongyrchol: £1,600

3.3.Costau angladd yng Nghymru

Ar gyfartaledd, mae cost angladd ychydig yn is yng Nghymru; yn ôl Mynegai Costau Angladd Cenedlaethol Royal London, y gost gyfartalog yw £3,586.

Mae cost gyfartalog angladd fesul awdurdod lleol yng Nghymru yn y tabl isod (rhoddir costau claddu a chostau amlosgi ar wahân):

Llun yn cynnwys sgrin lun  Wedi cynhyrchu’r disgrifiad yn awtomatig

Ffynhonnell: Mynegai Costau Angladd Cenedlaethol Royal London.

4.  Y Lluoedd Arfog

Mae'r Lluoedd Arfog yn darparu help ar unwaith gyda threfniadau a chostau angladd personél sy’n cael eu lladd wrth wasanaethu.

Bydd y Lluoedd Arfog yn talu cost arch a chost ei danfon at ddewis drefnydd angladdau’r teulu. Gall teulu'r ymadawedig ddewis angladd milwrol, sydd ar draul y cyhoedd, gyda’r Lluoedd Arfog yn trefnu ac yn talu am y gladdedigaeth neu’r angladd amlosgi, neu, os yw’r teulu’n dewis claddedigaeth neu angladd amlosgi preifat, y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn darparu grant angladd gwerth hyd at £3,446.

5.  Claddu plant

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cael gwared ar ffioedd claddu plant yng Nghymru gyfan.

Dyrannodd Llywodraeth Cymru £1.5 miliwn (ar gael hyd at 2020) i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r polisi newydd. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cyllid hwn hefyd ar gael i ddarparwyr mynwentydd ac amlosgfeydd ‘sy'n cytuno i beidio â chodi tâl dan yr amgylchiadau hyn’.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â diwedd ffioedd claddu plant yng Nghymru. Mae'r ddogfen yn nodi bod yr holl ffioedd mewn perthynas â chladdu plentyn, gan gynnwys amlosgi, yn cael eu cynnwys. Fodd bynnag, nid ywr cyllid yn cwmpasu costau angladd eraill, megis trefnydd angladdau, blodau nac eirch.

Y gronfa gyfatebol yn Lloegr, sef Cronfa Angladdau Plant, yn talu costau claddu ac amlosgi, fel yng Nghymru, ond mae hefyd yn cwmpasu’r ffi am dystysgrif meddyg ac arch neu amdo (hyd at gost o £300). Nid yw'r gronfa'n talu costau angladd eraill.

6.  Taliad Costau Angladd

Efallai y bydd rhai teuluoedd sy'n cael rhai budd-daliadau yn gymwys ar gyfer Taliad Costau Angladd i'w helpu gyda chost angladd. Gweinyddir y taliad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, nid gan Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol.

Gall Taliad Costau Angladd helpu i dalu am rai o’r costau canlynol:

Efallai y bydd rhai hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol ar gyfer costau angladd eraill, megis ffioedd trefnydd angladdau, blodau neu’r arch. Gallai teuluoedd gael hyd at:

Fodd bynnag, ni fyddai'r taliad fel arfer yn talu holl gostau'r angladd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.